Health and Safety Executive

HSE yn hyrwyddo ffermio mwy diogel yng nghymru

HSE Press Release:E101:04 - 20 Gorffennaf 2004

Bu farw chwe unigolyn yn y diwydiant amaethyddol yng Nghymru yn 2003/04, sef dau yn fwy na'r llynedd, yn ôl ffigurau a ryddhawyd heddiw gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

Bu farw pump o'r chwe unigolyn wrth ddefnyddio neu atgyweirio cerbydau. Mewn un achos arbennig o drist, cafodd bachgen 8 mlwydd oed ei wasgu o dan olwynion wagen fforch-godi a oedd yn gyrru am yn ôl.

Mae'r duedd ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru yn debyg i'r patrwm ar gyfer Prydain Fawr. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf cafodd 57 o weithwyr eu lladd yng Nghymru, gan gynnwys pedair gwaith yn fwy o bobl hunan-gyflogedig na chyflogeion. Ym Mhrydain Fawr gyfan, ceir tuedd ddisgynnol o ran cyfraddau damweiniau angheuol yn y sector cyflogedig, ond nid ymhlith yr hunan-gyflogedig.

Dywedodd Dr Roger Nourish, Pennaeth sector Amaethyddiaeth a Bwyd yr HSE:

"Gresynaf at y ffaith bod yn rhaid i mi nodi cynnydd mewn damweiniau angheuol ym maes ffermio yng Nghymru. Y llynedd, nododd yr HSE ei ymrwymiad i leihau marwolaethau diangen ar ffermydd Cymru drwy apelio at gymunedau a theuluoedd i gydweithio â ni. Mae'n amlwg bod llawer o waith i'w wneud o hyd.

Mae a wnelo iechyd a diogelwch synhwyrol â rheoli risgiau, yn hytrach na dileu pob risg, a ffermwyr sydd yn y sefyllfa orau i wneud hyn. Mae iechyd a diogelwch yn un o ofynion sylfaenol ffermio cynaliadwy a dylid ei ystyried yn rhan annatod o reolaeth busnes fferm dda."

Dywedodd Steve Coppell, Pennaeth Gweithrediadau'r HSE yng Nghymru:

"Byddwn yn parhau i gydweithio â'n rhanddeiliaid megis y Cynulliad, asiantaethau'r Llywodraeth, colegau amaethyddol, undebau amaethwyr, Lantra a Chyswllt Ffermio, a all ddylanwadu ar ffermwyr i wella'r broses o reoli risgiau. Mae damweiniau yn drawmatig i bawb sy'n gysylltiedig â hwy - maent hefyd yn gostus yn ariannol (roedd cost damweiniau i ffermwyr a gweithwyr fferm yng Nghymru ar gyfer 2003/04 tua £20.9 miliwn). Byddwn yn gweithio i helpu ffermwyr i gydymffurfio â'r gyfraith ond byddwn yn llym gyda phobl sy'n ei herio."

Aeth Roger Nourish ymlaen:

"Bob blwyddyn mae mwy o ddamweiniau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth ym Mhrydain Fawr nag mewn unrhyw gategori arall. Mae'r ystadegau diweddaraf hyn ar gyfer Cymru yn tanlinellu'r risgiau. Felly heddiw rwyf yn falch o lansio'r fideo Diogelwch Tractorau, sy'n defnyddio adluniadau didostur ac sy'n disgrifio arferion gwaith diogel o ran gweithrediadau tractor. Mae'r fideo yn dangos sut y gall camgymeriadau syml arwain at drychineb ac mae'n disgrifio'r camau sylfaenol y gellir eu cymryd i leihau'r risg. Mae'r fideo yn rhan o becyn hyfforddi sy'n cynnwys Canllaw Hyfforddi Diogelwch i ddarlithwyr a hyfforddwyr a thaflen Diogelwch Tractorau i fyfyrwyr a hyfforddeion.

"Mae ffermwyr Cymru yn arbennig o ddiamddiffyn - mae llawer yn gweithio mewn mentrau teulu bach neu'n hunan-gyflogedig neu'n gweithio ar eu pen eu hunain. Byddwn yn parhau â'n rhaglen o Ddiwrnodau Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch i'r gynulleidfa hon, gan ddangos y risgiau cyffredin ac atebion ymarferol synhwyrol.

"Dim ond os bydd ffermwyr yn fyw ac yn iach y gellir sicrhau ffermio cynaliadwy. Felly rwyf am apelio'n uniongyrchol at deuluoedd ffermio - gofynnwch i'r rhai sy'n annwyl i chi pa waith maent yn ei wneud a sut y byddant yn sicrhau eu bod yn cyrraedd gartref yn ddiogel. I gael rhagor o gyngor a chymorth ewch i'n gwefan neu ffoniwch ein llinell wybodaeth".

Nodiadau i olygyddion

1. Ceir manylion yr holl farwolaethau yn y sector amaethyddol ym Mhrydain Fawr yn 'Fatal injuries in farming, forestry and horticulture 2003/2004'.

2. Mae gwefan Amaethyddiaeth yr HSE ar gael yn http://www.hse.gov.uk/agriculture/index.htm

3. Mae copïau o'r Pecyn Diogelwch Tractorau, MISC538a, pris £30, ISBN 0 7176 2712 8 ar gael o HSE Books

Manylion marwolaethau yng Nghymru yn y sector amaethyddol 2003/2004

Daethpwyd o hyd i weithiwr coedwigaeth hunan-gyflogedig, 59 mlwydd oed, yn hwyr yn y nos gyda boncyff coeden ar ben ei gorff a'i goesau. Bu'n gweithio ar ei ben ei hun mewn gwyntoedd cryf.

Dioddefodd ffermwr hunan-gyflogedig, 51 mlwydd oed, anafiadau angheuol i'w ben a'i frest pan gwympodd allan o gafn peiriant codi a yrrwyd gan ei fab. Roedd yn torri coeden a gynhaliwyd gan dractor yn defnyddio cadwyni. Cwympodd y goeden yn ôl a chwympodd y ffermwr allan o'r cafn wrth i'r peiriant codi droi drosodd.

Gwasgwyd bachgen 8 mlwydd oed dan olwynion wagen fforch-godi a oedd yn mynd am yn ôl yn ystod gwyliau'r ysgol. Roedd yn aros ar fferm ei dadcu a'i famgu lle roedd yn mynd am dro o amgylch y fferm. Ni wyddys yn union beth a ddigwyddodd ond credir bod y plentyn naill ai wedi cwympo o'r wagen fforch-godi wrth iddi fynd am yn ôl, neu iddo redeg tuag at y cerbyd a oedd yn mynd am yn ôl.

Gwasgwyd ffemwr hunan-gyflogedig, 74 mlwydd oed, yn erbyn cafn tractor pan gwympodd bwrn o wellt ar ei ben. Bu'n fforchio silwair i mewn i gafn tractor pan gwympodd y bwrn o ben y clamp gan ei wasgu yn erbyn y cafn.

Bu farw cyflogai 25 mlwydd oed wrth enchwythu teiar tractor. Roedd wedi tynnu olwyn y tractor i ffwrdd a'i gosod yn erbyn ochr ôl-gerbyd. Ar ôl iddo drwsio'r tiwb aer, roedd yn enchwythu'r teiar, gan ddefnyddio cywasgydd, pan fethodd y tiwb aer, gan ei daflu ef a'r olwyn ar draws y buarth.

Bu farw cyflogai 57 mlwydd oed pan gollodd reolaeth o'i feic pedair olwyn ATV a gwrthdaro â rheiliau a oedd yn gorchuddio bwlch mewn wal yn iard gasglu biswail y fferm. Caniataodd y bwlch i'r biswail gael ei wthio mewn i ôl-gerbyd casglu, a leolwyd islaw. Roedd atodyn ysgrafell wedi'i osod ar y beic. Daethpwyd o hyd i'r ymadawedig wedi'i ddal rhwng sedd y beic pedair olwyn a'r rheiliau, gyda'r beic pedair olwyn yn hongian dros yr ymyl agored.



Damweiniau Angheuol yn Nghymru dros gyfnod o ddeng mlynedd (1994/95 i 2003/2004)

[key to graph]

[employees] Cyflogeion

[self-employed] Hunan-gyflogedig


Directgov - Business Link

Updated 12.01.12